Ar Dduw yr Arglwydd â'm holl lais

Salm III
[4] Ar Dduw, yr Arglwydd, â'm holl lais
  Y gelwais yn dosturaidd:
Ac ef a'm clybu i ar frys,
  O'i uchel freinlys sanctaidd.

[5] Mi a orweddais, ac a gysgais,
  A mi a godais gwedi;
Canys yr Arglwydd oedd i'm dàl,
  I'm cynnal, ac i'm codi.

[8] I'r Arglwydd byth o achos hyn
  Y perthyn iachawdwriaeth:
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith
  Ei fendith yn dra helaeth.
o achos hyn :: nid gallu dyn
- - - - -
[4] Ar Dduw, yr Arglwydd, â'm holl lais
  Y gelwais yn dosturaidd:
Ac ef a'm clybu i ar frys,
  O'i uchel freinllys sanctaidd.

[5] Gorweddais, cysgais felus hûn,
  Deffro'is yn ddiflin gwedi;
Canys yr Arglwydd oedd i'm dàl,
  I'm cynnal, ac i'm codi.

[8] I'r Arglwydd byth mae'n ddilys hyn
  Y perthyn iachawdwriaeth:
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith
  Ei fendith yn dra helaeth.

- - - - -
[4] Ar Dduw y nefoedd, â'm holl lais, Y gelwais yn dosturaidd; Ac Ef a'm clybu i ar frys O'i uchel freinllys sanctaidd. [5] Mewn hedd gorweddais, cysgais i, Ac mi a godais gwedi; Canys yr Arglwydd oedd i'm dal, I'm cynnal, ac i'm codi. [8] I'r Arglwydd Dduw, ac nid i ddyn, Y perthyn iachawdwriaeth; Ac ar ei bobloedd disgyn gwlith; Ei fendith râd yn helaeth.

Edmund Prys 1544-1623

Tôn [MS 8787]: Elmdon (<1835)

gwelir:
  O Arglwydd amled ydyw'r gwŷr
  Tithau O Arglwydd yn mhob man

Psalm 3
[4] On God, the Lord, with my whole voice
  I called pitifully:
And he heard me quickly,
  From his high, holy, royal court.

[5] I have lain, and have slept,
  And have risen after;
For the Lord was keeping me,
  To support me, and to raise me.

[8] To the Lord always therefore
  Belongs salvation:
And on his people descends the dew
  Of his blessing very abundantly.
therefore :: not the power of man
- - - - -
[4] On God, the Lord, with my whole voice
  I called pitifully:
And he heard me quickly,
  From his high, holy, royal court.

[5] I have lain, I have slept sweet slumber,
  I have awoken unweary after;
For the Lord was keeping me,
  To support me, and to raise me.

[8] To the Lord always unfailingly then
  Belongs salvation:
And on his people descends the dew
  Of his blessing very abundantly.

- - - - -
[4] On the God of heaven, with my whole voice I called pitifully; And He heard me quickly, From his high, holy, royal court. [5] In peace I lay, I slept, And I raised a prayer; Since the Lord was keeping me, To support me, and to raise me. [8] To the Lord God, and not to man, Belongs salvation; And on his peoples dew shall descend; His gracious blessing abundantly.

tr. 2010,19 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~